Datganiad preifatrwydd

Site search

Rhowch eich allweddair neu frawddegau chwilio yn y blwch isod

  • You are here:
  • Home
  • Datganiad preifatrwydd

Datganiad preifatrwydd

Mae’r CHRE yn ymroddedig i ddiogelu preifatrwydd ein partneriaid amrywiol; mae’r polisi hwn yn cwmpasu defnydd y CHRE o'r wybodaeth fyddwn yn casglu pan ddefnyddiwch www.chre.org.uk. Fe gedwir eich gwybodaeth bersonol yn gyfan gwbl yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data 1998.

(1) Pa wybodaeth fyddwn yn casglu?

Fe allwn gasglu, storio a defnyddio’r mathau canlynol o ddata:

  • gwybodaeth yn ymwneud â thrafodion rhyngoch chi a ni yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw wasanaethau fyddwch yn ceisio gennym;
  • gwybodaeth fyddwch yn darparu i ni i’r perwyl o gofrestru gyda ni (yn cynnwys eich manylion cyswllt personol);
  • gwybodaeth fyddwch yn darparu i ni i’r perwyl o danysgrifio i wasanaethau’n gwefan, ceisiadau am swyddi, hysbysiadau e-bost, cylchlythyron, eich ceisiadau i ymuno â’n rhwydwaith o randdeiliaid cyhoedd neu systemau cronfeydd data eraill ac ymatebion i’n hymgynghoriadau cyhoeddus;
  • unrhyw wybodaeth arall fyddwch yn dewis ei anfon atom.

(2) Sut fyddwn yn diogelu’ch gwybodaeth

Rydym yn amddiffyn diogelwch eich data a manylion unrhyw drafodion gyda ni yn ofalus. Fe wnawn hyn trwy weithredu a gweinyddu gofalus o systemau gwybodaeth diogel.

(3) Eich hawliau dan y Ddeddf Diogelu Data 1998

Gallwch gael cadarnhad o’r wybodaeth sylfaenol sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg. Os yw’n anghywir, byddwn yn ei gywiro ar unwaith wedi i ni dderbyn yr hysbysiad neu dystiolaeth ysgrifenedig briodol gennych.

Gallwch wneud cais ysgrifenedig am yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch dan adran 7 y Ddeddf Diogelu Data 1998.

(4) Darparwyr Gwasanaethau Trydydd Parti

Mae gennym gytundebau gyda sefydliadau eraill (neu Drydydd Parti) i gyflawni gweithgareddau neu wasanaethau penodol ar ein rhan. Os byddwn angen trosglwyddo rhywfaint o’ch data personol ymlaen atynt, byddwn yn sicrhau:

  • mai dim ond yr wybodaeth maent angen i gyflawni’r gwasanaeth fyddant yn derbyn
  • eu bod yn llofnodi cytundeb cyfrinachedd sy’n cynnwys datganiad ysgrifenedig na fyddant yn defnyddio’r wybodaeth a dderbyniwyd gennym ni ar gyfer unrhyw berwyl ag eithrio’r hyn a ddynodwyd gennym ni
  • fod ganddynt systemau cywir yn weithredol i ddiogelu data personol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein polisi preifatrwydd, cysylltwch â:

Rachael de Souza
Rheolwr Materion Cyhoeddus
Ffôn: 020 7389 8031
E-bost: rachael.desouza@chre.org.uk