Rhowch eich allweddair neu frawddegau chwilio yn y blwch isod
Prif Weithredwr
Mae Harry Cayton wedi bod yn brif weithredwr y Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd ers Awst 2007. Cyn hynny bu’n Gyfarwyddwr Cenedlaethol Cleifion a’r Cyhoedd yn yr Adran Iechyd. O 1992 hyd 2003 roedd yn brif weithredwr yr Alzheimer’s Society ac o 1981-1992 yn Gyfarwyddwr y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar.
Mae’n gadeirydd y Bwrdd Cenedlaethol Llywodraethu Gwybodaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn gynghorydd i’r Health Foundation ac i Macmillan Cancer Support ac yn ymddiriedolwr Comic Relief. Mae’n aelod o Fwrdd Cynghori’r Cyngor Cynllunio ar Wasanaethau Cyhoeddus drwy Ddylunio.
Mae Harry wedi ysgrifennu nifer o erthyglau a phenodau mewn llyfrau ac mae ei lyfr a gydawdurodd ar gyfer gofalwyr a phobl gyda dementia wedi ei gyhoeddi mewn wyth o ieithoedd. Mae’n siaradwr rheolaidd mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.
Derbyniodd OBE yn 2001 am ei wasanaethau i bobl gyda dementia. Derbyniodd Wobr Alzheimer Ewrop yn 2004, ac fe gafodd Radd Anrhydeddus gan Brifysgol Ulster yn 2005. Yn 2007 fe dderbyniodd Wobr Cyflawniad Oes gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chymrodoriaeth trwy Anrhydedd gan y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus.